Gwaed Ar Eu Dwylo lyrics by Plethyn - original song full text. Official Gwaed Ar Eu Dwylo lyrics, 2024 version | LyricsMode.com
Request & respond explanations
  • Don't understand the meaning of the song?
  • Highlight lyrics and request an explanation.
  • Click on highlighted lyrics to explain.
Plethyn – Gwaed Ar Eu Dwylo lyrics
[Verse 1]
O Tomos John Williams, mi welaf dy fedd
Ar gaeau glas Ffrainc sydd heddiw mewn hedd.
'Rwyt heddyw mor unig, mor bell o Fron Goch
A'r pabi yn unig sy'n cofio'r gwaed coch.
Mi welaf nad oeddyt ddim ond deunaw oed
Wrth ddisgyn i'r Somme — dyna'r hanes erioed;
Wrth ymladd dros wledydd a thros eu rhyddhau
Mi gefaist yn ddeunaw i'r ddaear dy gau.

[Chorus 1]
Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr,
Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast,
Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo.

[Verse 2]
A phwy oeddan nhw ddwedodd wrthyt ysgwn
Mai swanc oedd o lanc ysgwyddo y gwn;
A phwy oeddan nhw efo'u hiwnifform swel
A'th ddriliodd, a'th fartsiodd, a'th fwrdrodd mewn sbel?
Ni welais drwy hyn tan rhy hwyr yn y dydd
Ni che'st ti mo'r cyfle i dyfu'n ddyn rhydd,
Ond drwy'r mŵg a thrwy'r medals wrth ddisgyn i'r llawr
Mi welaist nad nhw fyddai'n wylo yn awr.

[Chorus 2]
Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr,
Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast,
Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo.
{Verse 3]
'Roedd eraill mewn cell yn dy annwyl Fron Goch
Yn llwydaidd eu gwedd, yn cael bwyd cibau'r moch,
Ond fflam eu gwrthryfel a gadwant ynghyn,
A Werddon a gododd drwy safiad di-gryn.
Mi gawsant gaethiwed am geisio rhyddhau
Eu gwlad hwy o'r dwylo a'th yrrodd i'th wae,
A mam yn Mron Goch oedd a'i chalon yn drom
Wrth glywed fod llencyn yn llwch yn y Somme.

[Chorus 3]
Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr,
Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast,
Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo.

[Verse 4]
Mae dynion yn Llundain o'u seddau'n Whitehall
Yn gyrru i ryfel rhai byth na ddon 'nol,
O slymiau tre Glasgow, neu Gymru cefngwlad
Mae hogyn diniwed yn crychu y gad —
I farw neu ynteu i ladd ei gyd-ddyn,
Yn enw rhyw ryddid nas gŵyr ei hun,
'Rwyt ti Tomos Williams ddim yn y byd
Yn disgyn yn 'sglyfaeth i'r ffosydd o hyd.

[Chorus 4]
Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr,
Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast,
Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo,
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo.
×



Lyrics taken from /lyrics/p/plethyn/gwaed_ar_eu_dwylo.html

  • Email
  • Correct

Gwaed Ar Eu Dwylo meanings

Write about your feelings and thoughts about Gwaed Ar Eu Dwylo

Know what this song is about? Does it mean anything special hidden between the lines to you? Share your meaning with community, make it interesting and valuable. Make sure you've read our simple tips.
U
Min 50 words
Not bad
Good
Awesome!

Post meanings

U
Min 50 words
Not bad
Good
Awesome!

official video

Featured lyrics

0-9 A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z